P-04-335 Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru

Geiriad y Ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch i sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru.

Cynigwyd gan: Matthew Richard Bumford


Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 11 Hydref 2011

 

Nifer y llofnodion: 187

 

Gwybodaeth ategol:

Er bod yr Alban a’r Iwerddon wedi llwyddo i ddod yn aelodau o’r Cyngor Criced Rhyngwladol a chystadlu yng Nghwpanau’r Byd, mae Cymru wedi methu â gwneud hynny. Yn wir, nid oes yr un chwaraewr o Gymru wedi chwarae criced rhyngwladol ers dros bum mlynedd o ganlyniad i fod yn gysylltiedig â Bwrdd Criced Lloegr. Yn ddiweddar, chwaraeodd tîm criced Cymru a Lloegr nifer o gemau “cartref” ym mhrifddinas Cymru, er nad oedd yr un chwaraewr o Gymru’n aelod o’r tîm. Byddai’n annerbyniol mewn unrhyw chwaraeon eraill, fel rygbi, i dîm nad yw’n cynnwys yr un Cymro, sy’n chwarae o dan fanner gwlad arall, gyda bathodyn gwlad arall ar ei frest, i fod yn chwarae gêm “gartref” ym mhrifddinas Cymru. Ni fyddai hyn yn dderbyniol ar gyfer unrhyw chwaraeon eraill, ac ni ddylai fod yn dderbyniol ar gyfer criced. Nid yw’r trefniadau presennol yn meithrin criced yng Nghymru ac, mewn gwirionedd, maent yn peri niwed i’r gêm oherwydd bod diffyg cyfle i gricedwyr o Gymru chwarae i’r safon uchaf. Ar hyn o bryd, nid yw Cymru wedi’i chynrychioli o gwbl mewn criced rhyngwladol ac mae’n rhaid i hyn newid drwy sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru.